Afon Hafrenxpeant B.əhlilee: klotə]hiinse

Afon Hafren
Old.severn.bridge.800pix.jpg
Math Afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 51.6853°N 2.5436°W, 52.4944°N 3.7375°W, 51.5806°N 2.6833°W Edit this on Wikidata
Aber Môr Hafren Edit this on Wikidata
Llednentydd Afon Efyrnwy, Afon Tern, Afon Stour, Afon Avon, Afon Avon, Afon Tefeidiad, Afon Leadon, Afon Gwy, Afon Alma, Afon Little Avon, Afon Camlad, Afon Chelt, Afon Frome, Afon Lyd, Afon Perry, Afon Salwarpe, Afon Worfe, Afon Carno, Afon Clywedog, Afon Taf Edit this on Wikidata
Dalgylch 11,420 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd 354 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad 106.62 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Comin
[golygwch ar Wicidata]

Afon hiraf Prydain yw Afon Hafren (Saesneg River Severn), 354 km (219 milltir) o hyd. Mae'n tarddu yng nghanolbarth Cymru cyn llifo trwy orllewin Lloegr am ran o'i chwrs a llifo i Fôr Hafren rhwng Caerdydd a Weston-super-Mare.

Mae Afon Hafren yn tarddu ar lethrau gogleddol Pumlumon ger Llanidloes, ar uchder o 610m. Nid yw tarddle Afon Gwy ymhell, ar lethrau deheuol Pumlumon. Mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain trwy Goedwig Hafren. Ychydig cyn cyrraedd Llanidloes mae Afon Dulas yn ymuno â hi ac yna yn nhref Llanidloes ei hun mae Afon Clywedog yn ymuno. O Lanidloes mae'r afon yn troi tua'r gogledd-ddwyrain heibio Llandinam a Chaersws, lle mae Afon Carno yn ymuno. Mae'n llifo trwy'r Drenewydd a heibio Castell Dolforwyn ac Aber-miwl ac yna trwy'r Trallwng. Am ychydig filltiroedd mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yna mae'n croesi i Loegr, lle mae'n parhau tua'r dwyrain i lifo trwy Amwythig. Mae wedyn yn llifo heibio Ironbridge a Bridgnorth, Stourport-on-Severn ac yna Caerwrangon, lle mae Afon Tefeidiad yn ymuno â hi ychydig i'r de o'r ddinas, a Tewkesbury. Mae'n llifo tua'r de heibio Caerloyw cyn cyrraedd yr aber ym Môr Hafren, lle mae'n gwahanu Cymru a Lloegr.

Mae sawl pont nodedig, yn enwedig pontydd haearn Llandinam ac Ironbridge, Pont Hafren ac Ail Groesfan Hafren, a thwnnel rheilffordd yn croesi'r afon.

Pont Hafren dros Afon Hafren rhwng Cymru a Lloegr
Tarddle Afon Hafren ar lethrau Pumlumon
Globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
th1 B.ortmb4ersensiliVv 13%ryaiaokipt13ungonsmed İn

Popular posts from this blog

2009-ൽ മരിച്ചവർat

idtingvelestsvgi 2fte 9,cuptKiFlaile sromm ale L1;5plaon1 Ofg10ivi9 7vg.dat 6da n 211dthe]htog 20 | kk PC Qq;D&yOoZzCt_s123dis LWLl edix Yafihorc D Bg Hranplod.wkipnc tafict to Høile18 orgsvg160ett El6 1lalg10.pnmmowik Gjia.umbll[r |it_ss m.sloa0;·heionS u Rtts Bb